Yr hyn rydyn ni'n ei wneud
Rydym yn darparu mannau hyblyg, modern, mewn swyddfeydd a labordai i helpu'ch busnes i arloesi, tyfu a datblygu
Rydym yn helpu busnesau newydd yn y maes gwyddorau, arloesi a thechnoleg, a’r rheiny yn eu camau cynnar, i oresgyn rhwystrau i lwyddiant a chynnig amgylchedd lle gallant ffynnu. Rydym hefyd yn ganolfan i gwmnïau rhyngwladol sy'n chwilio am droedle ym marchnadoedd Cymru, y DU ac Ewrop.
Mae Springboard wedi creu diwylliant deinamig sydd wedi'i gynllunio i helpu entrepreneuriaid i dyfu busnesau llwyddiannus, gyda'i gysylltiadau cryf o ddarparwyr cymorth ecosystem.
Mae'r adeilad yn cynnig pecyn cyflawn o gyfleusterau gydag ystafelloedd cyfarfod, ardaloedd ymneilltuo a mannau parcio am ddim gyda chyfleusterau gwefru cerbydau trydan (EV).
Mae ein canolfan yn rhoi'r cyfleoedd a'r manteision cystadleuol sydd eu hangen ar fusnesau i dyfu a llwyddo.

Canolfan Arloesi Springboard
Lle mae arloesi a chyfle yn cwrdd. Ydych chi'n barod i fod yn rhan o gymuned arloesi Springboard?


