Llwytho
Skip to main content

Amdanom

Cynnig mannau arloesi hyblyg lle gall busnesau uchelgeisiol gyrraedd eu potensial i dyfu’n sylweddol

Amgylchedd ysbrydoledig, arloesol, sy’n cynnig cyngor arbenigol heb ei ail am fusnes a materion ariannol. Cyfleoedd i drafod a chydweithio â chyfoedion gyda'r un dyheadau. Eir i’r afael â’r holl ffactorau hyn o dan un to, er mwyn i'ch busnes lwyddo.

Gyda 20 mlynedd o brofiad, a lleoliad delfrydol, 5 munud yn unig o draffordd yr M4, ein harbenigedd yw bod yn angor i'ch llwyddiant.

Ers agor yn 2005, rydym wedi creu dros 100 o fusnesau gyda'r mwyafrif yn graddio i'r economi leol, gan greu dros 500 o swyddi, a chynorthwyo i sicrhau buddsoddiadau gwerth dros £12 miliwn.

O'ch diwrnod cyntaf gyda ni, ni yw eich lle cyntaf i droi am y cymorth diduedd, a’r arweiniad sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich busnes. Mae'n ased enfawr i unrhyw fusnes sydd wedi ei leoli yma yn Springboard. Rydyn ni gyda chi bob cam o'r ffordd.

I lawer o'n cleientiaid, ein gwir werth yw’r ffordd yr ydym yn rheoli eich anghenion o ddydd i ddydd. O’r parsel hwnnw sydd angen ei ddosbarthu ar frys, i ddod o hyd i le i gyfarfod â chwsmer hollbwysig. Byddwn yn gwneud ein gorau i leddfu’r pwysau bach o ddydd i ddydd, i wneud pethau’n haws.