Llwytho
Skip to main content

Mannau Gweithio

Gweithle wedi'i gynllunio i lwyddo

Mae ein hadeilad tri llawr, modern, yn cynnwys 35 o ystafelloedd deor, 2 labordy, llu o fannau cyfarfod, derbynfa ac ardaloedd ymneilltuo modern sy'n rhoi'r pecyn cyflawn o gyfleusterau i chi i ddiwallu eich holl anghenion.

Mae ystafelloedd busnes yn amrywio o 20 metr sgwâr (210 troedfedd sgwâr) i 105 metr sgwâr (1,126 troedfedd sgwâr) ac maent ar gael ar delerau ‘ymrwymo/ ymadael’, hawdd, gyda chytundeb tenantiaeth 12 mis sy'n ymgorffori cyfleoedd i symud yn hyblyg o fewn yr adeilad.

Yn ogystal, gall Springboard ddarparu cyfleusterau desg byw a chynnig gwasanaethau deori i gwmnïau sy'n dymuno ymuno â’r farchnad yng Nghymru, y DU neu Ewrop.

Mae ein mannau yn darparu'r cynhwysion i helpu busnesau gwych i lwyddo.

Dechreuwch ar eich stori lwyddiant

Icon showing a light bulb containing a person, illustrating innovative ideas, with a map pin indicating a flexible and inspiring location

Amgylchedd hyblyg ac ysbrydoledig

Icon of an individual surrounded by people and arrows, representing a trusted network for impartial business guidance

Eco system o gyngor busnes diduedd a brofwyd, y gellir ymddiried ynddi

Icon of a person surrounded by arrows pointing away from him, illustrating the concept of networking and collaboration

Rhwydweithio a chydweithio

Break-out area in the co-working space at Springboard Business Innovation Centre

Man i gydweithio

Mae gan Springboard hefyd fannau cydweithio i'w ychwanegu at ei restr o gyfleoedd i'ch busnes.

Bydd ein man gweithio modern, cynllun agored yn rhoi bwrlwm newydd a chyffrous i chi yn hytrach na gweithio gartref.

Mynnwch ddesg boeth am ddiwrnod neu rentu desg barhaol, mae’r dewis yno i chi. Mae ein tîm cymorth arbenigol wrth law i sicrhau bod pob manylyn wedi cael sylw, fel eich bod chi'n canolbwyntio ar wneud eich gwaith gorau.

Bydd Hwb Spring yn cynnig yr holl hanfodion sydd eu hangen arnoch i redeg eich busnes mewn amgylchedd deniadol, â chysylltiadau da:

  • Cyfle i rhwydweithio yn ein mannau cydweithio
  • Manteisiwch ar ein hardaloedd ymneilltuo, gyda'r dewis i drefnu ystafelloedd cyfarfod am bris gostyngol
  • Cyfleusterau lluniaeth ar gael
  • Parcio am ddim 5 munud o leoliad yr M4
  • Mannau Gwefr Cerbydau Trydan (EV)

Mannau Cyfarfod

Llunio a gweithredu amgylcheddau cyfarfod sy'n tanio arloesedd ac yn hyrwyddo ffyniant economaidd. Mae dewis eang o leoedd i breswylwyr ar gael am ddim. Rhaid trefnu ymlaen llaw. Mae ein hystafelloedd cyfarfod yn Springboard hefyd ar gael i'w llogi ar gyfer unrhyw fusnes allanol, ac maent yn cynnwys yr holl gyfarpar angenrheidiol. Mae arlwyo ar gael am dâl ychwanegol.

Spring 1

Lle i hyd at 14 o bobl i eistedd

Diwrnod llawn - £100

Hanner diwrnod - £74

Spring 2

Lle i hyd at 12 o bobl i eistedd

Diwrnod llawn - £100

Hanner diwrnod - £74

Ystafell y Bwrdd

Lle o hyd at 24 o bobl i eistedd

Diwrnod llawn - £127

Hanner diwrnod - £85

Exterior view of the entrance to Springboard Business Innovation Centre

Cyfeiriad Cofrestredig

Mae gan eich busnes y fantais o ddefnyddio Canolfan Arloesi Busnes Springboard – Wales fel eich cyfeiriad cofrestredig.

  • Delwedd busnes proffesiynol
  • Cyfeiriad yng Nghymru
  • Gostyngiad o 50% ar ystafelloedd cyfarfod
  • Ail-gyfeirio post